Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog
Llywodraeth Cymru i wneud hyfforddiant sgiliau triniaeth cynnal
bywyd brys (ELS), gan gynnwys adfywio cardio-pwlmonaidd hanfodol
(CPR) yn rhan orfodol o’r cwricwlwm mewn ysgolion
uwchradd yng Nghymru. Byddai hyn yn ffurfio rhan o’r
wybodaeth a’r ddealltwriaeth graidd y mae plant yn ei chael
yn yr ysgol ac yn creu cenhedlaeth newydd o achubwyr bywyd ledled
Cymru.
Cyflwynwyd
y ddeiseb gan:
Sefydliad
Prydeinig y Galon
Ystyriwyd y ddeiseb am y tro cyntaf: 19 Mehefin 2012
Nifer y llofnodion: Cyflwynwyd y ddeiseb gan Sefydliad Prydeinig y Galon. Casglwyd deiseb gysylltiol tua 4,000 o lofnodion.